Fe gyhoeddodd Amber Rudd yn hwyr nos Sul ei bod yn  ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cartref ar ôl bod dan bwysau yn sgil y “sgandal” Windrush a thargedau ynglŷn â mewnfudwyr anghyfreithlon.

Roedd hi wedi cyfaddef ei bod wedi camarwain Aelodau Seneddol yn “anfwriadol” ynglŷn â thargedau i estraddodi mewnfudwyr anghyfreithlon.

Fe ymddiswyddodd AS Hastings a Rye oriau’n unig cyn yr oedd disgwyl iddi wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin am y targedau a mewnfudwyr anghyfreithlon, yn sgil pwysau arni am y modd roedd wedi delio gyda “sgandal” Windrush.

Yn ei llythyr at y Prif weinidog Theresa May, dywedodd ei bod yn cymryd “cyfrifoldeb llawn” am beidio bod yn ymwybodol o fodolaeth y targedau.

Mae’n golygu y bydd Theresa May yn cael ei gorfodi i ad-drefnu ei Chabinet unwaith eto yn dilyn ymddiswyddiad Amber Rudd. Hi yw’r pumed aelod o’r Cabinet i adael ei swydd yn dilyn yr etholiad cyffredinol brys y llynedd.

Windrush

Roedd pwysau wedi bod yn cynyddu ar Amber Rudd ers i’r driniaeth “warthus” a gafodd y genhedlaeth Windrush ei datgelu.

Roedd adroddiadau bod y mewnfudwyr a ddaeth o’r Caribî i’r Deyrnas Unedig rhwng y 1940au a’r 1970au yn cael eu gorfodi i brofi eu bod nhw’n byw yma’n gyfreithlon gan achosi ansicrwydd i nifer fawr o bobl.

Mae ysgrifennydd cysgodol yr wrthblaid, Diane Abbott wedi dweud bod Amber Rudd wedi “gwneud y peth iawn” ond mae’n dweud bod yn rhaid i Theresa May nawr wneud datganiad clir wrth Aelodau Seneddol ynglŷn â’r sefyllfa.