Mae cynigion Llywodraeth Prydain i ddatrys yr anghydfod ynghylch pwerau ôl-Brexit yng ngwledydd Prydain yn “chwalu” egwyddor datganoli, yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Cafodd newidiadau eu cyflwyno i’r Bil Ymadael er mwyn ceisio datrys y ffrae rhwng San Steffan a Llywodraethau Cymru a’r Alban.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb erbyn hyn, ond mae pryderon o hyd gan Lywodraeth yr Alban ynghylch cyfyngu ar eu hawliau am hyd at saith mlynedd.

Ym mhapur newydd y Sunday Herald, dywedodd Nicola Sturgeon: “Ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y DU wedi egluro ei bod am gael y gair olaf ar nifer o feysydd polisi datganoledig sydd ar hyn o bryd yn unol â chyfraith yr UE – gan chwalu’n llwyr yr egwyddor wrth galon y setliad datganoli a gafodd ei gymeradwyo’n ddemocrataidd gan bobol yr Alban dros ugain mlynedd yn ôl.

“Mae’r Torïaid bellach wedi cynnig gwelliannau i’r Bil sydd, medden nhw, yn rhoi ystyriaeth i’n pryderon.

“Ond, fel bob tro, yn y manylion y mae’r maglau, ac mae darllen y print bach yn ofalus yn bradychu realiti’r hyn sy’n cael ei gynnig i ni.”

Caniatâd

Fe fydd gwelliannau newydd Llywodraeth Prydain yn sicrhau na fydd pwerau sy’n cael eu dychwelyd i San Steffan ddim yn cael aros yno am gyfnod amhenodol.

Fe fydd hefyd angen caniatâd Holyrood cyn i weinidogion gael ddeddfu ar feysydd datganoledig.

Ond mae Nicola Sturgeon yn dadlau mai hwn yw’r diffiniad “mor swreal a gwyrdroedig… erioed, o bosib, i’w greu yn yr iaith Saesneg”.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, bydd y cytundeb â Llywodraeth Cymru’n “rhoi sicrwydd cyfreithiol ac yn cynyddu pwerau” y llywodraethau datganoledig.