Mae mwy na 200 o aelodau seneddol wedi llofnodi llythyr yn galw am ddeddfu ar addewidion Prif Weinidog Prydain, Theresa May i gefnogi cenhedlaeth ‘Windrush’.

Mae’r helynt wedi achosi cryn ansicrwydd i fewnfudwyr a ddaeth o’r Caribî ddegawdau’n ôl.

Mae’r llythyr hefyd yn cyhuddo’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd o lunio polisi mewnfudo “heb feddwl na pharatoi” er mwyn ymateb i’r sefyllfa. Mae rhai yn galw ar iddi ymddiswyddo yn sgil y sgandal.

Daeth i’r amlwg eisoes nad oedd hi’n ymwybodol o dargedau’r Swyddfa Gartref i symud mewnfudwyr anghyfreithlon.

Mae aelodau seneddol Plaid Cymru, yr SNP a’r Blaid Werdd yn cefnogi’r llythyr, sy’n galw am ddeddfu “heb oedi”.

Y llythyr

Dywed y llythyr: “Rydym yn galw arnoch i [ddeddfu] drwy ddod ag offeryn statudol gerbron y Senedd i sicrhau bod y mesurau’n cael eu cyflwyno mor gyflym â phosib.”

Mae nifer o bobol wedi cael eu bygwth â chael eu halltudio neu gael gwrthod gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cynnig dinasyddiaeth i bobol o holl wledydd y Gymanwlad oedd wedi cyrraedd gwledydd Prydain cyn 1973. Mae hynny’n cynnwys pobol heb ddogfennau perthnasol, a’u plant, yn ogystal â phobol sydd eisoes wedi cael yr hawl i aros ac sydd am uwchraddio eu statws.

Mae’n bosib y gallai rhai pobol hefyd dderbyn iawndal.

Pryderon y Ceidwadwyr

Daw’r llythyr ar ôl i Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, Sajid Javid alw ar i bobol o leiafrifoedd ethnig beidio â chefnu ar y Ceidwadwyr yn sgil yr helynt.

Mae yntau’n fab i fewnfudwyr o Bacistan a symudodd i Loegr yn y 1960au.

Dywedodd wrth y Sunday Telegraph fod Llywodraeth Prydain wedi ymroi i ddatrys y sefyllfa, gan alw ar leiafrifoedd ethnig i edrych ar y “darlun ehangach” wrth bleidleisio mewn etholiadau lleol yr wythnos hon.

Mae e wedi canmol Theresa May ac Amber Rudd am eu hymateb i’r sefyllfa, wrth iddyn nhw sefydlu tasglu i ddatrys ansicrwydd sy’n parhau i nifer fawr o bobol.

Mae Amber Rudd eisoes wedi ymddiheuro am ei diffyg gwybodaeth, ond mae rhai yn galw ar iddi ymddiswyddo ac ar i Theresa May ei diswyddo.