Mae disgwyl i Donald Trump gwrdd â’r Frenhines pan fydd yn ymweld â’r Deyrnas Unedig ar ddydd Gwener, 13 Gorffennaf, yn ôl adroddiadau.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau eisoes wedi cael rhybudd i ddisgwyl protestiadau yn ystod ei ymweliad dadleuol.

Nid yw manylion llawn ei ymweliad wedi cael eu datgelu hyd yn hyn ond mae adroddiadau’n awgrymu y bydd yn cwrdd â’r Frenhines.

Yn y cyfamser mae ymweliad Donald Trump yn cael ei weld fel cyfle i Theresa May bwysleisio’r “berthynas arbennig” rhwng y DU a’r Unol Daleithiau, ac mae disgwyl iddi bwyso am gytundeb masnach wedi Brexit.

Ond mae disgwyl i’r Arlywydd wynebu nifer o brotestiadau oherwydd ei bolisïau dadleuol a’i ymddygiad.

Mae ei daith i’r DU yn cael ei ddisgrifio fel “ymweliad gwaith” yn hytrach nag ymweliad gwladol a fyddai wedi cynnwys nifer o seremonïau gan gynnwys cyfle i aros gyda’r Frenhines ym Mhalas Buckingham.