Mae nifer yr ymosodiadau ar staff carchardai yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed dros y misoedd diwetha’.

Yn ôl ffigyrau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, roedd yna 2,327 o ymosodiadau ar staff carchardai yn rhwng Hydref a Rhagfyr 2017 – y nifer uchaf erioed o fewn tri mis.

Yn ogystal, mi gynyddodd nifer y carcharorion sy’n niweidio’u hunain yn 2017 gan 6% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol – 11,630 oedd y ffigwr, sef yr uchaf erioed.

Rhwng 2016 a 2017, mi gynyddodd nifer yr ymosodiadau mewn carchardai i 29,485 a chynyddodd nifer yr achosion o hunan niweidio i 44,651.

“Argyfwng”

Mae’r ffigyrau yn dangos bod y “sustem garchardai yn wynebu argyfwng” yn ôl Prif Weithredwr Cynghrair Howard tros Ddiwygio Carchardai.

“Yn y pen draw, mi fyddai camau positif tuag at leihau nifer y carcharorion yn achub bywydau,” meddai.

“Byddai hefyd yn amddiffyn staff, a’n atal pobol rhag troseddu ymhellach.”