Mae dwsinau o gwmnïau wedi ymrwymo i gefnu ar rhai mathau o blastig erbyn y flwyddyn 2025.

Dan ‘Cytundeb Blastigau’r Deyrnas Unedig’ bydd busnesau yn sicrhau bod modd ailgylchu’r holl ddeunydd pacio plastig maen nhw’n ei ddefnyddio.

Mae 42 cwmni ynghlwm â’r cynllun, ac yn ôl sefydlwyr y cytundeb – corff Wrap – mae’r busnesau yma yn gyfrifol am werthu 80% o ddeunydd pacio plastig gwledydd Prydain.

Yn ogystal, mae 15 sefydliad arall – gan gynnwys Consortiwm Manwerthu Prydain a’r ffederasiwn Bwyd a Diod – yn bwriadu cydymffurfio ag ambell darged.

“Ffordd wahanol”

“Mae gennym ni gyfle i feddwl am blastig mewn ffordd wahanol, fel ein bod yn rhwystro’r niwed y mae’n ei achosi i’n planed,” meddai Prif Weithredwr Wrap, Marcus Gover.

“I wneud hyn, bydd angen trawsnewid y drefn sydd ohoni.

“Ac allwn ni ond gwneud hynny trwy sicrhau ymrwymiad pawb sydd ynghlwm â’r broblem.”