Mae gwefan sy’n cael y bai am fwy na phedair miliwn o ymosodiadau seibr, wedi cael ei chau.

Mae saith o bobol wedi’u harestio mewn perthynas â’r ymosodiadau – a’r rheiny o Loegr, Serbia, Croatia, Hong Kong a’r Iseldiroedd.

Roedd yr ymosodiadau wedi tarfu ar nifer o fanciau yng ngwledydd Prydain y llynedd.

Yn ôl Europol, roedd y wefan ymhlith gwerthwyr ymosodiadau mwyaf Ewrop, lle mae modd prynu pecyn sy’n gallu cau cyfrifiaduron i lawr ar raddfa eang. Roedd modd rhentu’r pecyn am gyn lleied â 14.99 o ddoleri (£10.70).

Roedd gan y wefan fwy na 136,000 o ddefnyddwyr cofrestredig, ac roedd yn hygyrch i bobol heb fawr o ymwybyddiaeth o gyfrifiaduron.

Roedd heddluoedd 11 o wledydd ynghlwm wrth yr ymchwiliad, ac maen nhw’n dweud eu bod yn disgwyl arestio rhagor o bobol dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.