Mae arweinydd undeb Unsain (Unite), Len McCluskey wedi beirniadu Aelodau Seneddol Llafur am “danseilio” Jeremy Corbyn yn ystod helynt sy’n parhau am agweddau gwrth-Semitaidd honedig o fewn y Blaid Lafur.

Yr awgrym yw y gallai’r sawl sydd wedi lladd ar Jeremy Corbyn orfod adennill eu hawl i sefyll yn eu hetholaethau yn yr etholiad nesaf.

Fe fu Jeremy Corbyn yn cyfarfod ag arweinwyr y gymuned Iddewig neithiwr, lle gwnaethon nhw ei gyhuddo o fethu â gweithredu yn ôl ei addewid i ddatrys y sefyllfa. Maen nhw’n dweud bod angen newid “sylfaenol” yn agweddau’r Blaid Lafur.

Mae Len McCluskey wedi cael ei gyhuddo o danseilio’r ymdrechion hynny drwy feirniadu’r arweinydd yn gyhoeddus.

Gwrandawiad

Yn y cyfamser, mae dwsinau o Aelodau Seneddol Llafur wedi gorymdeithio i ddangos eu cefnogaeth i Ruth Smeeth, Iddew yn y blaid, wrth iddi baratoi i roi tystiolaeth yng ngwrandawiad aelod o’r blaid sydd wedi’i ddiarddel am fod yn wrth-Semitaidd.

Yn ystod yr orymdaith, daethon nhw wyneb-yn-wyneb â chefnogwyr Marc Wadsworth, sydd wedi’i gyhuddo o wneud sylwadau gwrth-Semitaidd am Ruth Smeeth yn ystod cyfarfod i lansio adroddiad y blaid ar wrth-Semitiaeth.

Yn y New Statesman, dywedodd Len McCluskey fod Aelodau Seneddol Llafur wedi bod yn ymdrechu i ddarlunio’r Blaid Lafur fel un sy’n llawn “casineb at fenywod, gwrth-Semitiaeth a bwlio”.

Dywedodd fod rhai Aelodau Seneddol – gan gynnwys Chris Leslie, Neil Coyle, John Woodcock, Wes Streeting ac Ian Austin – yn euog o “lygru” ymdrechion Jeremy Corbyn i ddatrys y sefyllfa.

Dywedodd ei fod wedi “ffieiddio” yn sgil eu hymddygiad.