Mae dau ddyn o Rufain wedi’u harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio cefnogwr tîm pêl-droed Lerpwl ger stadiwm Anfield neithiwr.

Roedd tîm Roma yn herio Lerpwl yng Nghynghrair y Pencampwyr yn ddiweddarach yn y noson.

Mae dyn 53 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Walton yn dilyn ffrwgwd. Mae lle i gredu ei fod e wedi teithio o Iwerddon gyda’i frawd i wylio’r gêm.

Mae dau ddyn, 25 a 26 oed, wedi’u harestio.

Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi mynegi eu “sioc” yn dilyn y digwyddiad, gan alw ar gefnogwyr i gynorthwyo’r heddlu wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.

Cafodd naw o ddynion 20 i 43 oed eu harestio ar y noson yn dilyn digwyddiadau treisgar o amgylch y stadiwm. Ond dywedodd yr heddlu eu bod nhw “yn y lleiafrif”.