Fe fydd rhieni Alfie Evans yn y Llys Apêl heddiw i frwydro am yr hawl i’w mab dderbyn triniaeth dramor.

Mae Alfie, sy’n 23 mis oed, yn dioddef o gyflwr dirywiol ac mae’n ddifrifol wael ar hyn o bryd. Cafodd ei dynnu oddi ar beiriant cynnal bywyd nos Lun, ond mae’n anadlu ar ei ben ei hun.

Mae meddygon yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl yn gwrthod gadael iddo fynd adref, ond clywodd ei rieni ddoe y gallai’r penderfyniad hwnnw gael ei wyrdroi.

Mae disgwyl i dri barnwr yn y Llys Apêl glywed yr achos y prynhawn yma.