Fe fydd arweinydd y Blaid Lafur yn cwrdd ag arweinwyr y gymuned Iddewig yn ddiweddarach heddiw (Ebrill 24).

Daw hyn yn sgil wythnosau o brotestiadau a beirniadaeth o’r ffordd y mae Jeremy Corbyn wedi mynd i’r afael â gwrth-semitiaeth o fewn ei blaid.

Mae’r arweinydd wedi gwahodd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain a’r Cyngor Arweinyddiaeth Iddewig, i gyfarfod ag ef, fel ei fod yn medru gwrando ar eu pryderon.

Mae’r ddau gorff eisoes wedi rhybuddio bod ymateb yr arweinydd hyd yma heb fod yn ddigonol, a bod angen iddo waredu gwrth-Semitiaeth o’r blaid.

Ac maen nhw wedi gwrthod gwahoddiad i gyfarfod arall ddydd Mercher – yn bennaf oherwydd bod grwpiau Iddewig mwy cymedrol yno.