Mae cwmni Capita wedi cyhoeddi cynlluniau newydd i adfywio eu busnes a chodi £701 miliwn, yn sgil adroddiadau o golledion mawr.

Bellach mae’r grŵp wedi cyhoeddi y gwnaethon nhw golled gwerth £513.1 miliwn y llynedd – dyna oedd y swm cyn treth.

Bu colledion o £89.8 miliwn yn 2016.

Mae Capita yn cyflenwi gwasanaethau a nwyddau. Daw eu trafferthion ariannol yn sgil methiant cwmni Carillion – grŵp oedd hefyd yn cynnig gwasanaethau tebyg.

Mae Capita wedi gwrthod y gymhariaeth rhwng y ddau gwmni gan fynnu eu bod yn “hollol wahanol”.