Mae Theresa May yn wynebu wythnos o heriau newydd yn y Senedd dros Brexit.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd fynegi eu pryderon am adael yr undeb dollau.

Ond mae Downing Street wedi mynnu na fydd y Llywodraeth yn newid ei meddwl am adael yr undeb dollau yn dilyn adroddiadau bod y Prif Weinidog yn ail-ystyried.

Fe fydd y Mesur Masnach a Thollau yn cael ei drafod ddydd Iau ar ôl i’r AS Llafur Chuka Umunna a’r AS Ceidwadol Anna Soubry gyflwyno newidiadau i’r mesur.