Mae adroddiadau y gallai Theresa May ildio i bwysau seneddol i gadw Prydain mewn undeb tollau gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Yn dilyn colli pleidlais yng Nhy’r Arglwyddi ac adroddiadau y bydd nifer o ASau Torïaidd yn pleidleisio o blaid aelodaeth o’r Undeb Tollau, mae lle i gredu y gallai’r Prif Weinidog a’i thîm orfod ailfeddwl ar y pwnc.

Dywedodd ffynhonnell o Downing Street na fyddai Theresa May a’r bobol agosaf ati yn torri eu calonnau pe bai’r Senedd yn gorfodi’r Llywodraeth i weithredu fel hyn.

Byddai tro pedol o’r fath yn boblogaidd gydag arweinwyr busnes ac yn mynd ymhell tuag at ddatrys anawsterau Theresa May wrth ddatrys problemau ffin Gogledd Iwerddon.

Fodd bynnag, byddai symudiad o’r fath yn cythruddo aelodau blaenllaw o’r Cabinet, gyda chred y gallai’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, a’r Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol, Liam Fox, ymddiswyddo.

Yn swyddogol mae’r Llywodraeth yn dal i ddadlau dros adael yr Undeb Tollau.

“Nid yw polisi’r Llywodraeth wedi newid – rydym yn gadael yr Undeb Tollau,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.