Mae Jeremy Corbyn yn cyhuddo Theresa May o fod yn bersonol gyfrifol am helynt cenhedlaeth Windrush trwy wneud bywyd yn amhosibl iddyn nhw gyda’i pholisïau mewnfudo.

Mae disgwyl iddo ymosod yn hallt ar y Prif Weinidog yn ei araith yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno heddiw.

“Yr wythnos yma, mae pydredd cynhenid o fewn y Llywodraeth wedi dod i’r amlwg,” meddai Jeremy Corbyn.

“Mae sgandal Windrush wedi dangos sut mae dinasyddion Prydeinig a ddaeth i’n gwlad i’w hailadeiladu ar ôl y rhyfel wedi wynebu allgludiad oherwydd na allan nhw fodloni’r amodau amhosibl a ddaeth yn sgil penderfyniad Theresa May i greu ‘amgylchedd gelyniaethus’ i fudwyr.

“Fe gawson nhw eu rhybuddio. Pan oedd y Torïaid yn gwthio eu polisi amgylchedd gelyniaethus drwy’r Senedd, fe wnaeth rhai ohonon ni eu rhybuddio am y canlyniadau i’r rheini a gafodd eu geni ym Mhrydain a’r rheini a gafodd eu geni dramor.

“Mae bywydau wedi eu dryllio oherwydd penderfyniadau a gweithredoedd personol Theresa May a’i llywodraeth.”