Mae Aelodau Seneddol wedi rhybuddio y byddai methu â sicrhau cytundeb masnach rydd gyda’r Undeb Ewropeaidd yn “drychinebus’ i ddiwydiannau bwyd a diod Prydain.

Yn ôl Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ’r Cyffredin, byddai dibynnu ar reolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael ‘effaith seismig’ ar sector cynhyrchu mwyaf Prydain, sy’n werth £28 biliwn i’r economi.

Heb fynediad llawn i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd, byddai allforion cynhyrchion wedi eu prosesu fel siocled, caws, cig a diodydd meddal yn dioddef, tra byddai defnyddwyr ym Mhrydain yn wynebu prisiau uwch a llai o ddewis ar silffoedd archfarchnadoedd.

Byddai’r diwydiant – sy’n cyflogi 400,000 o bobl – yn sicr o ddioddef, yn ôl y pwyllgor.

Meddai cadeirydd y pwyllgor, Rachel Reeves:

“Mae llwyddiant y diwydiant wedi bod yn ddibynnol iawn ar fod yn rhan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau.

“Er mwyn sicrhau parhad llwyddiant ein diwydiant bwyd a diod, rhaid i’r Llywodraeth roi eglurder a sicrwydd ar ein perthynas â’r UE yn y dyfodol a cheisio cysondeb rheoliadau, safonau a masnachu gyda’r UE yn y sector hwn.”