Mae adroddiadau answyddogol fod Donald Trump yn bwriadu ymweld â Phrydain yn ystod yr haf – am y tro cyntaf ers iddo gael ei ethol yn arlywydd.

Roedd wedi canslo ymweliad i agor llysgenhadaeth newydd America yn Llundain ddechrau’r flwyddyn.

Y rheswm a roddodd oedd nad oedd yn cytuno â symud y llysgenhadaeth o Grosvenor Square yn Mayfair i ardal llawer llai crand i’r de o’r afon.

Mae eraill yn credu fod y diffyg croeso a fyddai iddo gan ffigurau cyhoeddus ym Mhrydain hefyd yn ffactor.

Ar y pryd, dywedodd Maer Llundain, Sadiq Khan, fod yr arlywydd ‘wedi cael y neges’ gan bobl Llundain, ac y byddai protestiadau torfol heddychlon pe bai’n dod.

Cymysg yw’r berthynas rhyngddo a’r Prif Weinidog Theresa May hefyd sydd wedi beirniadu sylwadau ganddo ar Fwslimiaid a newid yn yr hinsawdd.