Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn rhedeg ei seithfed Marathon Llundain ddydd Sul.

Mae’r digwyddiad yn denu degau o filoedd, ac wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 1981.

Llwyddodd Alun Cairns i redeg y ras 26.2 milltir o hyd mewn tair awr a hanner y llynedd, ac mae’n debyg ei fod ymhlith yr Aelodau Seneddol cyflymaf yn y ras.

Eleni mi fydd yn rhedeg ar ran elusennau NSPCC Cymru ac Atal y Fro – grŵp sydd yn diogelu menywod rhag camdriniaeth yn y cartref.

Cwrs byd-enwog

“Mae rhesymau pobol dros gymryd rhan yn y digwyddiad – un o gyrsiau enwocaf y byd – yn fy ysbrydoli i bob tro,” meddai Alun Cairns.

“Dw i’n edrych ymlaen at ymuno â miloedd o redwyr gyda’r nod o godi arian i achosion da. A gobeithio bydd yna rywfaint o heulwen ar y diwrnod!”