Mae lluoedd heddlu ledled gwledydd Prydain yn cadw lluniau o bobol ddiniwed ar eu cyfrifiaduron heb angen, yn ôl Aelodau Seneddol.

Dan y sustem sydd ohoni, mae’n rhaid i swyddogion ddileu lluniau o bobol yn y ddalfa â llaw. Mae hyn yn aml yn golygu nad yw’r lluniau’n cael eu dileu.

Ac o ganlyniad, mae’n bosib bod miliynau o luniau o bobol ddiniwed yng Nghronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu.

Daw’r rhybudd am hyn gan Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin. Mae’n debyg bod cofnodion DNA ac ôl bys yn cael eu dileu yn awtomatig.

Triniaeth “israddol”

“Mae’n ymddangos bod plismyn yn dewis ymdopi â’r drefn sydd ohoni, er bod hynny’n medru arwain at luniau o bobol ddiniwed yn cael eu cadw,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Norman Lamb.

“Ac, mae hyn yn golygu bod cofnodion lluniau’n cael eu trin yn israddol i gofnodion DNA a chofnodion ôl bys.

“Dylai’r Llywodraeth fynd ati ar frys i fynd i’r afael â hyn…”   

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi y byddan nhw’n sefydlu bwrdd â chynrychiolwyr o faes heddlua i fynd i’r afael â’r sefyllfa.