Mae torrwr gwallt o’r Alban wedi cael ei garcharu am geisio heintio deg o ddynion â HIV.

Daryll Rowe, 27, yw’r dyn cyntaf yng ngwledydd Prydain i gael ei garcharu am wneud hynny, ac mi fydd yn treulio o leiaf ddeuddeg mlynedd dan glo.

Gerbron Llys y Goron Brighton ddydd Mercher (Ebrill 18), cafodd ei farnu’n euog o ddeg cyhuddiad – pump o gyflawni niwed corfforol difrifol, a phump cyhuddiad arall o geisio cyflawni hynny.

Llwyddodd i heintio pump o’r dynion.

Twyllo

Ar ôl derbyn diagnosis o HIV yn Ebrill 2015, aeth Daryll Rowe ati i gwrdd â dynion ar ap Grindr a chael rhyw gyda nhw.

Roedd yn mynnu nad oedd ganddo’r haint wrth y dynion, a byddai’n twyllo rhai ohonyn nhw i gredu ei fod yn cael rhyw â nhw mewn modd ddiogel.  

Wedi’r weithred, roedd yn gwneud hwyl am eu pennau trwy ddatgelu bod ganddo’r haint.

Cafodd wyth o’r dynion eu targedu yn Brighton, yn ne ddwyrain Lloegr, a chafodd dau eu targedu tra’r oedd ar ffo o’r heddlu yng ngogledd ddwyrain Lloegr.