Mae’r cwmni bancio, Lloyds Banking Group, wedi cyhoeddi y bydd dros 305 o swyddi’n cael eu colli, wrth iddyn nhw gau 49 o ganghennau ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r cwmni wedi dweud y bydd cyfanswm o 1,230 o swyddi’n mynd ond eu bod nhw’n gobeithio symud y rhan fwya’ o’r staff i swyddi gwahanol “lle bo hynny’n bosib”.

Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n creu 925 o swyddi newydd o fewn y cwmni hefyd.

Doedd dim gwybodaeth yn y datganiad am ble’n union y bydd y canghennau sy’n cau ond mae’r banc yn addo cynyddu nifer ei fanciau symudol.

Lloyds yw’r cwmni bancio diweddara’ i gyhoeddi y byddan nhw’n gwneud toriadau i’w gweithlu, wrth i nifer symud at fancio ar-lein, medden nhw.