Roedd y nwy nerfol a wenwynodd gyn-ysbïwr o Rwsia a’i ferch, wedi cael ei ddefnyddio ar “ffurf hylif”, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Mae’r Adran Amgylchedd hefyd wedi cadarnhau mai dim ond “ychydig iawn” o’r sylwedd, sy’n perthyn i’r teulu Novichok, a gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad, a bod yr olion mwyaf ohono yng nghartref Sergei Skripal yn Salisbury, neu Gaersallog.

Mae disgwyl y bydd gwaith glanhau yn cael ei gynnal mewn naw safle yn y ddinas yn Swydd Wiltshire.

Y cefndir

Mae mwy na mis wedi bod ers i Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, gael eu canfod yn anymwybodol ar fainc yn y ddinas.

Mae Yulia Skripal bellach wedi’i rhyddhau o’r ysbyty, ac mae ei thad yn parhau i dderbyn triniaeth feddygol.