Mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud bod yr ymosodiadau bomio ar Syria ddiwedd yr wythnos ddiwetha’ yn “foesol’ ac yn “gyfreithlon”.

Wrth wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin, fe ddywedodd Theresa May fod pob llwybr diplomyddol wedi methu a bod y defnydd o arfau cemegol yn gosod y digwyddiadau hyn “ar wahân”.

Ynghynt yn y dydd, roedd y cyn Atwrnai Cyffredinol, John Morris, wedi cefnogi ei safbwynt gan ddweud ei fod yn debyg i benderfyniad tebyg a wnaeth ef adeg rhyfeloedd yr hen Iwgoslafia.

‘Tŷ’r Cyffredin nid Trump’ – Corbyn

Yn ôl y disgwyl, fe fu arweinydd y Blaid Lafur yn codi cwestiynau am yr ymosodiad a methiant y Prif Weinidog i gael pleidlais seneddol ymlaen llaw.

Fe ddylai Theresa May fod yn atebol i aelodau seneddol, meddai Jeremy Corbyn, nid i “fympwyon” Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Fe alwodd am gyfraith newydd – Deddf Pwerau Rhyfel – i’w gwneud yn orfodol i gael cefnogaeth Tŷ’r Cyffredin cyn gweithredu’n filwrol.

Angen edrych eto meddai Clarke

Roedd disgwyl trafodaeth hir a di-flewyn ar dafod wrth i’r ASau gael eu cyfle cynta’ i drafod yr ymosodiadau.

Wrth gefnogi’r ymosodiad ei hun, fe ddywedodd y cyn-Ganghellor Ken Clarke bod angen edrych eto ar rôl Tŷ’r Cyffredin mewn penderfyniadau o’r fath.