Mae dau o bobol wedi cael eu harestio ar ôl i garo daro i mewn i bump o gerddwyr yn Swydd Essex brynhawn Sadwrn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Canvey Island am oddeutu 4.10 y prynhawn.

Ar ôl y digwyddiad, fe wnaeth dau o bobol ffoi, gan adael eu car BMW yn y fan a’r lle.

Cafodd llanc 17 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus, o fethu â stopio ar ôl gwrthdrawiad ac o yrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau. Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Cafodd dyn 18 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus, o yrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau, o ddwyn cerbyd drwy fygwth, o ddwyn cerbyd, o fethu â stopio ar ôl gwrthdrawiad, o fethu ag adrodd am wrthdrawiad ac o yrru heb yswiriant.

Cafodd pump o bobol driniaeth am anafiadau difrifol, ac mae tri ohonyn nhw’n dal yn yr ysbyty. Ond dydy eu bywydau ddim mewn perygl.

Mae’r heddlu’n gwadu bod y gwrthdrawiad wedi digwydd wrth iddyn nhw gwrso’r car.