Mae ymgyrchwyr oedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynnal rali heddiw yn galw am gael y gair olaf ar amodau Brexit.

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan yn rali Pleidlais y Bobol yn Llundain ddydd Sul mae’r actor Patrick Stewart.

Mae’r ymgyrchwyr yn dadlau bod rhoi’r gair olaf iddyn nhw ar yr amodau’n rhan o’r broses ddemocrataidd.

Wrth ymateb i ymdriniaeth arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn o weinidogion cysgodol sy’n mynd yn groes i’w farn ar Brexit, dywedodd yr actor ei fod yn “peri penbleth” iddo.

Wrth gyfeirio at Star Trek wrth siarad ar raglen Andrew Marr y BBC, dywedodd Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson y byddai Brexit yn “mynd â ni’n feiddgar i feysydd ry’n ni efallai wedi eu hesgeuluso dros y blynyddoedd diwethaf.”

Ond dywedodd Patrick Stewart y byddai ei gymeriad yn Star Trek, Jean-Luc Picard wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.