Mae’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain o “aros am gyfarwyddiadau gan Donald Trump” ynglŷn â’r sefyllfa yn Syria.

Mae wedi galw am bleidlais yn y Senedd ar unrhyw fwriad i ymosod ar y wlad ac am gadoediad a chytundeb trwy drafodaeth o dan adain y Cenhedloedd Unedig.

“Bydd rhagor o ymyrraeth filwrol gan y Deyrnas Unedig yn rhyfel aml-ochrog dychrynllyd Syria yn creu’r peryg o gynyddu gwrthdaro sydd eisoes yn ddinistriol,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth fel petai’n aros am gyfarwyddiadau gan yr Arlywydd Donald Trump ynghylch sut i fwrw ymlaen.”

Pleidlais

Mae nifer o wleidyddion eraill, gan gynnwys arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable, wedi galw am bleidlais yn y Senedd cyn y bydd y Deyrnas Unedig yn ymosod ar Syria.

Yn ôl Jeremy Corbyn, mae yna ansicrwydd hyd yn oed o fewn llywodraeth yr Unol Daleithiau, gyda’r Ysgrifennydd Amddiffyn yno, James Mattis, yn dweud nad oes “tystiolaeth” i gefnogi ymosodiad ac y gallai hynny arwain at chwyddo’r ymladd y tu hwnt i reolaeth.