Mae Prif Weinidog Prydain ac Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cytuno i gosbi Llywodraeth Syria am ei defnydd honedig o arfau cemegol.

Ddoe fe gytunodd y Cabinet yn Llundain i roi caniatâd i Theresa May gymryd camrau milwrol yn erbyn llywodraeth Basser al-Assad ac, ychydig oriau wedyn, fe fu hi’n siarad gyda’r Arlywydd Donald Trump yn Washington.

Yn ôl datganiad o Downing Street, fe gytunodd y ddau bod angen “herio” y defnydd o arfau cemegol a cheisio atal hynny rhag digwydd eto ond doedd dim sôn am gael pleidlais ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ond does dim sicrwydd beth yn union fydd y gweithredu na phryd y bydd yn digwydd – yn ôl y trydariad diweddara’ gan Donald Trump, fe allai ddigwydd “yn fuan” neu “dim mor fuan â hynny”.

‘Peryg i heddwch’

Mae gwleidyddion o sawl gwlad wedi rhybuddio bod peryg mawr y bydd y rhyfel cartref yn Syria yn chwyddo ac ehangu, gan fygwth heddwch y byd.

Yn ôl adroddiadau papur newydd, mae’r Unol Daleithiau yn anfon eu llu milwrol mwya’ ers 2003 i’r Môr Canoldir yn barod i ymosod.

Yn Llundain, roedd y Cabinet wedi cytuno ei bod yn “debygol” mai lluoedd Arlywydd Syria oedd yn gyfrifol am ddefnyddio arfau cemegol yn erbyn gwrthryfelwyr yn nhref Douma ger Damascus.

Datblygiadau eraill

Yn y cyfamser, mae disgwyl i arbenigwyr o’r Corff tros Wahardd Arfau Cemegol ddechrau archwilio yn Douma ddechrau’r wythnos nesa’.

Mae Rwsia, cefnogwyr penna’ Syria, wedi sicrhau trafodaeth bellach ymhlith aelodau Pwyllgor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddarach heddiw.

Ac fe fydd y Glymblaid Atal y Rhyfel yn cyflwyno llythyr yn Downing Street heddiw i alw am ymatal – mae hwnnw wedi ei arwyddo gan wleidyddion, academwyr ac enwogion.