Mae’r Comisiwn Elusennol wedi dechrau ymchwilio i honiadau o aflonyddu a chamymddwyn gan aelodau blaenllaw elusen Achub y Plant (Save the Children).

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio’n bennaf ar y modd y deliodd yr elusen â chwynion rhwng 2012 a 2015.

Bydd hefyd yn ystyried cwynion yn erbyn Justin Forsyth, y cyn-Brif Weithredwr, a Brendan Cox, gŵr gweddw Jo Cox, yr Aelod Seneddol Llafur a gafodd ei llofruddio.  

“Mae gennym gwestiynau sy’n rhaid eu hateb, ac mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu hateb yn glir ac yn sydyn,” meddai Michelle Russell, Cyfarwyddwr Ymchwiliadau’r Comisiwn Elusennol.

Honiadau

Ym mis Chwefror eleni, daeth i’r amlwg bod Axhub y Plant wedi delio â 31 honiad o gamymddwyn rhywiol – cafodd 10 o’r rheiny eu cyfeirio at yr heddlu.

Mae dogfen gan yr elusen – a ddaeth i law’r wasg – yn awgrymu bod perthynas Cadeirydd yr elusen, Syr Alan Parker, â Justin Forsyth, wedi dylanwadu ar y ffordd y deliodd â’r cwynion.

Bellach mae Brendan Cox wedi cyfaddef ei fod wedi achosi “niwed” i rai menywod yn y sefydliad tra’r oedd e’n Bennaeth Strategaeth yno.