“Wnawn ni byth dderbyn ffin yno” – dyna yw barn cyn-Taoiseach Iwerddon ar y mater o sefydlu ffin galed rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon yn dilyn Brexit.

Mewn cyfweliad ar raglen Newsnight, dywedodd Bertie Ahern y bydd Brexit yn “drychinebus i Iwerddon” a galwodd ar y Weriniaeth i ddadlau’n “gadarn” â Llywodraeth Prydain tros y mater.

Mynnodd y byddai’n rhaid i unrhyw drefn fasnach newydd fod yn debyg i’r “drefn sydd ohoni”, gan ategu na fydd ffin ffisegol rhwng y Gogledd a’r Weriniaeth.

“Os driwch chi osod un yno, mi fydd pobol – y bobol gyffredin – yn ei thynnu i lawr,” meddai. “Ni fydd angen aros i frawychiaeth wneud hynny.”

“Ansefydlogrwydd”

Daw’r sylwadau wedi i bum cyn-Ysgrifennydd Gwladol tros Ogledd Iwerddon ysgrifennu ym mhapur newydd The Times yn rhybuddio yn erbyn sefydlu ffin galed.

“Ein pryder yw y bydd ail-gyflwyno ffin galed yn creu ansefydlogrwydd a allai fygwth Cytundeb Gwener y Groglith,” medden nhw, gan gyfeirio at y cytundeb “heddwch” rhwng y Gogledd â’r Weriniaeth.