Mae gweinidog o’r Swyddfa Dramor wedi cynghori’r Ysgrifennydd Tramor rhag ymosod ar bobol ar lefel “bersonol”, yn dilyn sylwadau am Jeremy Corbyn.

Mewn erthygl i’r Sunday Times mae’r Ysgrifennydd, Boris Johnson, wedi galw arweinydd y Blaid Lafur yn “ynfytyn defnyddiol” i’r Kremlin, ac un sy’n “chwarae gêm Putin”.

Daw’r sylwadau yma yn dilyn ymosodiad cemegol ar gyn-ysbïwr Rwsiaidd a’i ferch yn ninas Salisbury, ac mae’r erthygl yn cyhuddo Jeremy Corbyn o fod yn amharod i feio Rwsia.

Ond dyw’r sylwadau “ddim yn helpu o gwbl” meddai’r gweinidog, Mark Field, mewn cyfweliad â rhaglen y BBC, Westminster Hour.

“Gyda’r fath yma o beth, mi fuaswn i’n ceisio osgoi sylwadau personol,” meddai. “Dydy sylwadau personol ddim yn helpu o gwbl.”

Cyn-ysbïwr a’i ferch

Cafodd y cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal, a’i ferch, Yulia, eu darganfod yn anymwybodol ar Fawrth 4, ac ers hynny mae’r pâr wedi bod yn yr ysbyty.

Mae’n debyg bod cyflwr y ddau yn gwella, ond mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud bod ganddyn nhw “anghenion meddygol o hyd”.

Mae’r hyn fydd yn digwydd i’r pâr ar ôl iddyn nhw wella a gadael yr ysbyty yn aneglur.