Mae is-gadeirydd ymgeiswyr y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch wedi cyfaddef iddi hacio gwefan gwrthwynebydd o’r Blaid Lafur yn y gorffennol.
Dywedodd Aelod Seneddol Saffron Walden fod y weithred wedi’i chyflawni cyn iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol.
Cafodd ei phenodi’n is-gadeirydd ymgeiswyr ym mis Ionawr.
Gwnaeth hi’r cyfaddefiad mewn cyfweliad â sianel Core Politics ar y we, wrth ateb cwestiwn am y peth mwyaf drygionus roedd hi wedi ei wneud.
“Tua deng mlynedd yn ôl, fe wnes i hacio… gwefan AS Llafur a newid popeth i ddweud pethau neis am y Torïaid.”
Ond dydy hi ddim wedi datgelu gwefan pwy oedd hi, yn ôl y Mail on Sunday, ac mae hi wedi ymddiheuro.