Mae tri o lanciau wedi’u cyhuddo ar ôl i fachgen 13 oed gael ei drywanu yn nwyrain Llundain.

Cafodd bachgen 13 oed a dau lanc 16 oed eu cyhuddo o achosi niwed bwriadol drwy gydweithio, a byddan nhw’n mynd gerbron ynadon yn ddiweddarach.

Mae’r bachgen 13 oed ac un o’r llanciau 16 oed hefyd wedi’u cyhuddo o fod ag arf yn eu meddiant.

Mae’r bachgen a gafodd ei drywanu’n dal mewn cyfrifol difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yn ardal Newham nos Iau.

Yn dilyn y digwyddiad, fe fu galwadau am roi rhagor o adnoddau i’r heddlu ymdrin ag achosion o drywanu a throseddau â chyllyll.

Mae Maer Llundain, Sadiq Khan wedi galw ar i’r cyhoedd helpu i adnabod pobol sydd yn cludo cyllyll.

Fe fydd uwchgynhadledd yn Llundain i drafod y sefyllfa ddydd Mawrth.