Mae barnwr wedi penderfynu na fydd Ffrancwr yn sefyll ei brawf am ladd dau deithiwr o wledydd Prydain mewn hostel yn Awstralia yn 2016.

Mae’r dyfarniad yn dod i’r casgliad na ydi Smail Ayad yn gallu cael ei ddal yn gyfrifol am yr ymosodiad cyllell yn Home Hill yn nhalaith Queensland state.

Fe gafodd Mia Ayliffe-Chung, 20, a Tm Jackson, 30, eu lladd yn yr ymosodiad.

Mae’r dyfarniad yn nodi na ddylai Smail Ayad fynd o flaen ei well oherwydd ei fod yn dioddef o sgitsoffrenia paranoia ar y pryd, a’i fod yn credu bod ffermwyr lleol a staff yr hostel yn trio’i ladd. Fe fydd yn cael ei gadw mewn uned seiciatryddol nes y bydd yn cael ei anfon adref i Ffrainc.