Mae dyn ifanc wedi’i ladd ar ôl cael ei drywanu yn nwyrain Llundain neithiwr, gan olygu bod dros 50 wedi cael eu llofruddio yn y ddinas eleni.

 Fe gafodd y dyn, a oedd yn ei 20au, ei ganfod wedi’i drywanu yn Stryd Link, Hackney, toc cyn 8yh neithiwr (dydd Mercher, Ebrill 4).

 Er gwaethaf ymdrechion i’w achub, bu farw hanner awr yn ddiweddarach.

Dyw’r heddlu ddim wedi arestio neb mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae ymchwiliad yn parhau.

Dim ond oriau ynghynt, bu farw dyn arall, yn ei 50au, y tu allan i siop bwcis ar Heol Upper Clapton, a hynny ar ôl iddo fod mewn ffrwgwd.

Cynnydd mewn ymosodiadau

Mae’r ymosodiadau hyn yn golygu bod y lefel o bobol sydd wedi’u llofruddio trwy gael eu trywanu ar ei lefel uchaf yng Nghymru a Lloegr ers 2010/11.

Mae hyn yn enwedig o wir yn Llundain, lle mae 13 o bobol wedi’u lladd yn ystod y ddau fis diwethaf.

Ddechrau’r wythnos, fe gyhoeddwyd bod Amaan Shakoor, 16 oed, wedi’i ladd ar ôl cael ei saeth yn ei wyneb yn Walthamstow ddydd Mawrth (Ebrill 2).

Roedd hyn tua’r un adeg a phan fu farw Tanesha Melbourne, 17 oed, ar ôl cael ei saethu mewn digwyddiad ar wahân yn Tottenham.

Mae comisiynydd yr heddlu yn Llundain, Cressida Dick, wedi rhoi’r bai ar y cyfryngau cymdeithasol am y cynnydd hwn mewn ymosodiadau, gan gyfeirio at y ffaith bod dadleuon yn mynd allan o reolaeth arnyn nhw.

Mae Scotland Yard wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad i 55 achos o lofruddiaeth yn Llundain a Sussex ers dechrau 2018.