Mae pensiynwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ar ôl i leidr yn ei gartref gael ei drywanu ganddo.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am tua 12.45yb heddiw (dydd Mercher, Ebrill 4), ar ôl i ddau ddyn dorri i mewn i dŷ yn Hither Green, de-ddwyrain Llundain.

Mae’n debyg bod un o’r lladron wedi bygwth y dyn 78 oed gyda sgriwdreifar yn ei gegin, tra oedd y llall yn chwilota i fyny’r grisiau.

Yn dilyn hyn wedyn, fe fu cythrwfl rhwng yr henwr a’r lleidr 38 oed, gyda’r lleidr yn cael ei drywanu yn y rhan uchaf o’i gorff.

Fe gafodd ei ddarganfod yn ddiweddarach gan aelodau o’r gwasanaeth ambiwlans, ac ar ôl iddo gael ei gludo i’r ysbyty yng nghanol Llundain, fe fu farw.

Fe gafodd yr henwr ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol yn wreiddiol, ond bellach mae wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae’n parhau yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain, ac mae’r heddlu’n dal i chwilio am yr ail leidr a ddihangodd yn syth wedi’r digwyddiad.