Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi addo mynd i’r afael â’r “anghyfiawnder” sy’n bodoli rhwng cyflogau merched a dynion, a hynny wrth iddi ddisgwyl i brif gwmnïau’r wlad gyflwyno eu ffigyrau heddiw.

Fe ddefnyddiodd Theresa May erthygl ym mhapur newydd The Telegrapgh heddiw i dynnu cymhariaeth rhwng yr anghyfartaledd mewn cyflogau heddiw a’r ymgyrch i ennill y bleidlais i fenywod ganrif yn ôl.

Dywed fod “anghyfiawnderau mawr yn dal gormod o ferched yn ôl o hyd.”

Cyflwyno ffigyrau

Fe gyhoeddwyd yr erthygl hon ar y diwrnod lle mae disgwyl i gwmnïau mawr yn wlad gyflwyno ffigyrau am y cyflogau mai merched a dynion sy’n gweithio iddyn nhw yn eu cael.

Mae pob cyflogwr sy’n cyflogi dros 250 o staff wedi cael eu gorchymyn i gyhoeddi’r ffigyrau hyn erbyn diwedd heddiw (dydd Mercher, Ebrill 4), ac mae’n debyg bod pob un o’r 9,000 o sefydliadau eisoes wedi gwneud hynny.

O’r 8,874 o gwmnïau sydd wedi cyflwyno’u ffigyrau, mae’n debyg bod 78% ohonyn nhw’n talu mwy o gyflog i ddynion nac i ferched, tra bo 14% yn talu i’r gwrthwyneb.

Roedd y 8% yn weddill yn dweud nad oedd yna fwlch ganddyn nhw rhwng cyflogau merched a dynion.