Mae merch 17 oed wedi cael ei saethu’n farw, a bachgen 16 oed yn dioddef o anafiadau difrifol, yn dilyn dau ddigwyddiad ar wahân yn Llundain neithiwr (dydd Llun, Ebrill 2).

Fe gafodd yr heddlu eu galw ir digwyddiad cyntaf yn Tottenham, gogledd Llundain, toc wedi 9:30yh.

Fe ddaethon nhw o hyd i ferch 16 oed, a oedd wedi ei saethu, ar Heol Chalgrove, sydd gerllaw gorsaf drenau Northumberland Park.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach fod y ferch wedi marw.

Hanner awr yn ddiweddarach wedyn, fe gafodd yr heddlu eu galw i Walthamstow yn nwyrain y ddinas.

Fe gafodd dau berson ifanc, 16 a 15 oed, eu canfod yno wedi’u hanafu, gyda’r bachgen 16 oed wedi cael ei saethu, a’r plentyn 15 oed wedi’i drywanu â chyllell.

Mae’r ddau ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, gyda’r bachgen 16 oed mewn cyflwr “difrifol”.

Daw’r digwyddiadau hyn yn sgil adroddiadau bod troseddau treisgar yn Llundain ar gynnydd.