Mae dau ddyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ôl i gar gael ei yrru’r ffordd anghywir ar draffordd, meddai Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 2.34yb yn dilyn adroddiadau bod car yn gyrru i gyfeiriad y dwyrain ar draffordd ar yr M62 ger cyffordd 26 yn Huddersfield.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod wedi’u galw yn fuan wedyn yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Bu farw dau ddyn mewn car Skoda yn y fan a’r lle.

Mae dyn arall, 22 oed, a oedd yn gyrru car Vauxhall Insignia wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus. Roedd hefyd wedi methu prawf anadl, meddai’r heddlu.

Roedd y ddau ddyn fu farw yn 34 a 37 oed.