Mae pennaeth Ofsted wedi cael ei chyhuddo o fod yn hiliol a gwneud sylwadau yn erbyn y ffydd Islamaidd ar ôl galw am wahardd penwisg yr hijab yn yr ystafell ddosbarth.

Cafodd Amanda Spielman ei beirniadu gan aelodau undeb NUT am awgrymu y gallai arolygwyr ofyn i ferched ifainc pam eu bod yn gwisgo’r hijab. Mae’r undeb o’r farn fod gan Ofsted farn ddidrugaredd.

Dywedodd aelodau’r undeb mewn cynhadledd yn Brighton ei bod yn “gwbl amhriodol” cwestiynu gwisg plant a phobol ifanc.

Yn ôl cynnig gan yr undeb, mae’r sylwadau’n mynd y tu hwnt i gyfrifoldebau Ofsted ac mae ganddyn nhw “oblygiadau y tu hwnt i giatiau’r ysgol”, ac mae’n rhaid eu hystyried “yng nghyd-destun ymosodiadau ar y gymuned Foslemaidd ac yn enwedig yr ystrydebau am ferched a menywod Islamaidd”.

Mae hefyd yn rhybuddio y gallai’r sylwadau “gael effaith negyddol ar gymunedau lleol ac arwain at ragor o neilltuo ac ymosodiadau corfforol a geiriol ar ferched a menywod Moslemaidd”.

‘Rhywioli’

Roedd Amanda Spielman wedi dadlau bod gorfodi merched ifainc i wisgo’r benwisg yn gallu cael ei ystyried yn arwydd o’u “rhywioli”.

Mae’r cynnig hefyd yn beirniadu ei sylwadau am hybu “rhyddfrydiaeth gyhyrog” yn hytrach na math o ryddfrydiaeth all achosi sarhad.

Mae hi hefyd wedi cefnogi pennaeth ysgol yn nwyrain Llundain a gafodd ei gorfodi i wyrdroi cynlluniau i wahardd yr hijab, gan ddweud mai penderfyniad i benaethiaid yw’r wisg ysgol.

‘Amgylchfyd Islamoffobaidd’

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb addysg: “Bydd portreadu’r hijab fel problem yn bwydo amgylchfyd sydd eisoes yn ofnadwy o Islamoffobaidd i Fwslimiaid yn y gymdeithas Brydeinig, ac mae Ms Spielman wedi bradychu rhieni sydd wedi brwydro’r gwaharddiad ar yr hijab yn yr ysgol honno yn Newham a’u portreadu fel eithafwyr sydd wedi cael eu radicaleiddio.”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Ofsted: “Mae sylwadau’r NEU yn destun siom. Does dim byd gwleidyddol am sicrhau nad yw ysgolion a rhieni’n destun pwysau diangen o du grwpiau ymgyrchu cenedlaethol neu gymunedol.

“Mae angen i brifathrawon allu gwneud penderfyniadau am wisg ysgol ar sail gwarchod neu bryderon am undod cymunedol, a bydd Ofsted bob amser yn eu cefnogi wrth iddyn nhw wneud hynny.”