Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio yn Amsterdam ar amheuaeth o lofruddio dyn 34 oed yn Swydd Essex fis Awst y llynedd.

Bu farw John Pordage ar ôl cael ei saethu ger gorsaf betrol yn Chelmsford ar Awst 5.

Aeth Bradley Blundell o’i wirfodd i orsaf yr heddlu yn yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn, ac mae Heddlu Swydd Essex yn paratoi i’w estraddodi i Loegr.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, bod â dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd, gwyrdroi cwrs cyfiawnder a bod ag eiddo yn ei feddiant oedd wedi cael ei ddwyn.