Mae’r Swyddfa Dramor yn ystyried cais gan Rwsia i weld Yulia Skripal, un o’r ddau a gafodd eu gwenwyno â nwy nerfol yn Salisbury ar Fawrth 4.

Dywedodd llefarydd y byddai’n rhaid ystyried ei hawliau a dymuniadau, yn ogystal â’r gyfraith, wrth wneud penderfyniad.

Treuliodd hi dair wythnos mewn cyflwr difrifol ar ôl iddi hi a’i thad, y cyn-ysbïwr Sergei Skripal, gael eu gwenwyno â Novichok.

Mae Llysgenhadaeth Rwsia yn mynnu bod ganddi hawl i weld Yulia Skripal, 33, wrth i’w chyflwr wella.

Mae Sergei Skripal mewn cyflwr difrifol o hyd.

 

Ffrae ddiplomyddol

Mae Llysgenhadaeth Rwsia wedi cyhuddo Prydain o’u “pryfocio” ar ôl i daith awyr fod yn destun archwiliad gan swyddogion y ffiniau ym maes awyr Heathrow.

Roedd yr awyren Aeroflot o Fosgo, ac fe ddigwyddodd yr archwiliad cychwynnol heb y criw, er bod y capten wedi cael yr hawl i fod yn bresennol yn y pen draw.

Ac fe gynyddodd y ffrae ddydd Gwener ar ôl i Rwsia fynnu bod Prydain yn gostwng nifer o diplomyddion ym Mosgo i’r un nifer ag sydd gan Rwsia yn Lludain.

 

 

Ond mae Heddlu Llundain yn gwadu bod y digwyddiad yn rhan o’u hymchwiliad, ac mae Rwsia’n gofyn am eglurhad.

Cwestiynau i’w hateb

Mae Llysgenhadaeth Rwsia wedi cyhoeddi rhestr o 27 o gwestiynau i’w gofyn i awdurdodau Prydain am Sergei a Yulia Skripal.

 

 

Maen nhw am wybod union natur eu cyflwr a’u triniaeth yn yr ysbyty, ac a yw meddygon wedi gwella neu waethygu eu sefyllfa.

Mae honiadau hefyd fod y Swyddfa Dramor wedi anwybyddu cais gan nith Sergei Skripal am wybodaeth am gyflwr ei hewythr. Mae hi’n awyddus i wybod pam nad oes lluniau ar gael o’r ddau yn yr ysbyty.

Ymchwiliad yr heddlu

Mae Heddlu Scotland Yard o’r farn mai yng nghartref Sergei Skripal y daeth e a’i ferch i gyswllt â’r nwy nerfol am y tro cyntaf.

Cafwyd hyd i olion Novichok ar ddrws ei gartref ac mewn sawl lleoliad arall. Cafwyd hyd i’r ddau yn anymwybodol ar fainc mewn parc ger canolfan siopa.

Mae’r heddlu wedi cau ardal chwarae plant am y tro wrth i’r ymchwiliad barhau.