Gwefannau cymdeithasol ac apiau sy’n gyfrifol am y cynnydd mewn troseddau â chyllell, yn enwedig ymhlith plant, yn ôl Comisiynydd Heddlu Llundain, Cressida Dick.

Cafodd 13 o bobol eu lladd yn Llundain dros gyfnod o bythefnos y mis yma – a gwefannau ac apiau fel YouTube, Snapchat ac Instagram ar fai, meddai.

Wrth siarad â phapur newydd y Times, dywedodd y gall anghydfodau gynyddu “o fewn munudau” o ffraeo ar y we.

“Mae rhywbeth, yn sicr, am effaith y cyfryngau cymdeithasol yn nhermau pobol sy’n gallu mynd o fod yn lled grac i ‘ymladd’ â’i gilydd yn gyflym iawn,” meddai, gan ychwanegu bod y cyfryngau cymdeithasol yn ei gwneud hi’n fwy anodd i bobol gallio ar ôl anghydfod.

 

Digwyddiadau

Fis Awst y llynedd, cafodd Jermaine Goupall, llanc 15 oed, ei drywanu i farwolaeth yn Thornton Heath yn Llundain yn dilyn ffrae rhwng giangiau am fideos yn lladd ar ei gilydd ar YouTube.

Mae 29 o bobol wedi’u trywanu i farwolaeth yn Llundain eleni, ac achosion o drywanu i farwolaeth yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd eu lefelau uchaf ers 2010-11.

Mae cyffuriau a theuluoedd un rhiant hefyd yn rhannol gyfrifol am yr achosion, meddai Cressida Dick.