Mae pedwerydd llanc wedi’i gyhuddo mewn perthynas ag ymosodiad ciaidd ar ddyn 49 oed ar blatfform trên ym Manceinion.

Fe wnaeth y criw gicio a sathru ar y dyn yn ardal Chadderton am oddeutu 9.35 nos Iau, 8 Mawrth.

Mae llanc 16 oed wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon yn ddiweddarach heddiw.

Mae tri o lanciau 15 oed eisoes wedi mynd gerbron llys – dau ohonyn nhw i wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio, a’r llall o ymosod.

Roedd gyrrwr trên wedi stopio’i gerbyd i helpu’r dyn wrth weld yr hyn oedd yn digwydd iddo.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol, ond mae’n parhau i wella.