Fe fydd angladd y digrifwr a diddanwr, Ken Dodd yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Lerpwl am 1 o’r gloch heddiw.

Bu farw’r digrifwr a diddanwr yn 90 oed yn ei gartref yn Knotty Ash ar Fawrth 11.

Fe fydd ceffylau’n cludo’i arch i’r angladd, a hynny’n arwydd o waith ei dad yn werthwr glo. Bydd yr osgordd angladdol yn dechrau ar ei thaith am 11 o’r gloch.

Bydd y gwasanaeth yn agored i’r cyhoedd, a’r cyfan yn cael ei ddarlledu ar sgrîn y tu allan.

Fe fydd baneri ar draws y ddinas yn cael eu gostwng fel arwydd o barch.

Mae ‘ffyn cosi’ (tickle sticks) yn cael eu gosod mewn gwahanol fannau ar hyd y daith wrth i filoedd o bobol ymgynnull ar strydoedd y ddinas.

‘Dyn bythgofiadwy’

Dywedodd Arglwydd Faer fod angladd Ken Dodd yn gyfle i dalu teyrnged i “ddyn bythgofiadwy”.

“Fydd yna fyth yr un digrifwr arall fel Ken, mae ei farwolaeth yn ddiwedd cyfnod ym myd adloniant gwledydd Prydain…”

Bydd yn cael ei gladdu mewn gwasanaeth preifat yn ddiweddarach.