Fe fydd llys yn dyfarnu heddiw p’un ai fydd y treisiwr, John Worboys, yn cael ei ryddhau o garchar ai peidio.   

Fe gyflwynwyd her i benderfyniad y Bwrdd Parôl gan ddwy ddynes, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, a gafodd eu treisio gan y gyrrwr tacsi, John Worboys.

Eu dadl nhw yw bod penderfyniad y Bwrdd Parôl i’w rhyddhau, yn un “afresymol”, a bod y bwrdd wedi methu ag ystyried “honiadau eraill” yn ei erbyn.

Mae’r Bwrdd Parôl yn mynnu bod eu penderfyniad yn “gyfreithiol a rhesymol” ac wedi’i seilio ar dystiolaeth briodol.

Cefndir

Cafodd John Worboys – sydd bellach yn galw’i hun yn John Radford – ei garcharu am gyfnod amhenodol yn 2009, gyda’r gorchymyn y dylai dreulio beth bynnag wyth mlynedd dan glo.

Roedd wedi’i garl yn euog o 19 trosedd yn erbyn 12 unigolyn. Ymhlith y troseddau roedd treisio, ymosodiadau rhyw, a drygio ei ddioddefwyr.

Mae’r heddlu yn credu ei fod wedi cyflawni 105 trosedd yn erbyn 105 dynes rhwng 2002 a 2008.