Mae dyn 80 oed a gafwyd yn euog yr wythnos ddiwethaf o dreisio a llofruddio dynes yn Ne Swydd Efrog yn 1972 wedi marw.

Roedd Peter Pickering yn cael ei adnabod wrth y ffugenw ‘Bwystfil Wombwell’.

Cafwyd e’n euog o dreisio a llofruddio Shirley Boldy, merch 14 oed yn Barnsley.

Roedd e mewn uned seiciatryddol yn Swydd Berkshire pan gafodd ei daro’n wael. Dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Cafodd ei arestio yn dilyn apêl o’r newydd am lofruddiaeth Elsie Frost yn 1965, ac mae’r heddlu’n dal i gredu ei fod yn gyfrifol ac wedi gobeithio ei gyhuddo’n ffurfiol.

Mae’r crwner wedi cael gwybod.