Mae cannoedd o bobol wedi cael cynnig iawndal yn gyfnewid am eu dillad wrth i’r ymchwiliad i achos o wenwyno Sergei Skripal a’i ferch Yulia yn Salisbury barhau.

Mae’r heddlu’n awyddus i dderbyn dillad a allai fod wedi dod i gyswllt â’r nwy nerfol Novichok.

Cafwyd hyd i olion y nwy nerfol mewn sawl bwyty yn yr ardal yn dilyn yr ymosodiad ar yr ysbïwr Rwsiaidd a’i ferch.

Mae lle i gredu bod hyd at 500 o bobol wedi dod i gysylltiad â’r gwenwyn, ac maen nhw wedi cael cyngor i olchi eu dillad, eu rhoi mewn bagiau plastig a’u clymu. Dylai unrhyw un â bagiau gysylltu â’r Cyngor Sir yn Wiltshire i ddod i’w casglu erbyn Ebrill 15.

‘Diogelwch y cyhoedd’

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Jenny Harries: “Mae’r risg i’r cyhoedd yn sgil y digwyddiad hwn yn parhau’n isel a dydy hyn ddim wedi newid.

 

 

“Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wedi mabwysiadu rhagofalon i’r sawl oedd yn y dafarn neu’r bwyty o fewn yr amser penodol.”