Mae’r “twll strwythurol” yn y gyllideb amddiffyn yn tanseilio ymdrechion y Llywodraeth i ddatblygu strategaeth ddiogelwch genedlaethol gydlynol, yn ôl un o bwyllgorau San Steffan.

Yn ôl y Cydbwyllgor ar y Strategaeth Diogelwch Cenedlaethol, mae’n bryder bod y rhaglen amddiffyn a gafodd ei lansio ym mis Ionawr yn ddim mwy nag “ateb gwleidyddol tymor byr”.

Er bod pwysau cynyddol ar draws y gyllideb diogelwch genedlaethol gyfan – gan gynnwys yr asiantaethau cudd-wybodaeth, seiber-ddiogelwch a’r Swyddfa Dramor – dywedodd y pwyllgor fod y gyllideb amddiffyn yn awr o dan “straen eithafol”.

Ychwanegodd fod yr adolygiad amddiffyn a diogelwch strategol diwethaf  yn 2015 wedi parhau â “methiant parhaol i gydweddu uchelgais â galluoedd a chyllid, gan ddibynnu ar addewidion afrealistig o ran arbedion effeithlonrwydd a llai o arian wrth gefn”.