Mae stereoteipiau “annheg a di-fudd” ynghylch arferion yfed menywod a dynion yn effeithio ar y ffordd y mae pawb yn meddwl am alcohol.

Mae arbenigwyr o Brifysgol y Caledonian yn Glasgow yn yr Alban wedi bod yn ymchwilio i’r ffordd y mae defnydd dynion a menywod o ddiod feddwol yn dal i gael ei drin yn wahanol gan gymdeithas.

Mae menywod yn cael eu beirniadau’n fwy llym os ydyn nhw wedi bod yn yfed, tra bod ymddygiad dynion yn fwy tebygol o gael eu hesgusodi.

Daw hyn er gwaethaf y ffaith bod dynion tua dwywaith mor debygol â merched o farw o achosion sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Mae’r adroddiad yn galw am gyfyngiadau ar gyfer pob math o farchnata alcohol, gan gynnwys ar-lein, sy’n defnyddio delweddau rhywiol a negeseuon sy’n ymwneud â merched.