Mae pâr o lewod efydd enfawr yn arddull y rhai sy’n gwarchod Sgwâr Trafalgar yn Llundain, yn mynd dan y morthwyl heddiw.

Mae disgwyl i’r cerfluniau, wedi’u seilio ar gynllun y rhai gwreiddiol gan Syr Edwin Landseer sy’n amgylchynu Colofn Nelson, fynd am gymaint â £100,000 yn yr ocsiwn yn Billingshurst, Gorllewin Sussex.

Maen nhw’n mesur pedair metr o hyd, ac ychydig dan ddwy fetr o daldra. Fe gawson nhw eu cynhyrchu ddiwedd yr ugeinffed ganrif ar gyfer marchnad Camden Lock ym mhrifddinas Lloegr.

Fe fyddan nhw ar werth gan gwmni Summers Place Auctions ochr yn ochr â’r teulu cyflawn cyntaf o ysgerbydau mamoth cynhanesyddol erioed i fynd o dan y morthwyl.